Cysylltwch â ni
Ysgol Bro Llifon
Groeslon,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL54 7DT
Rhif Ffôn: 01286 831033
Ebost: Ysgol Bro Llifon


Ysgol Bro Llifon
Groeslon,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL54 7DT
Rhif Ffôn: 01286 831033
Ebost: Ysgol Bro Llifon

Mae gan yr ysgol grŵp elusennau sydd yn trefnu digwyddiadau er mwyn codi arian at amrywiol achosion.
Dyma wybodaeth am rai o’r digwyddiadau a drefnwyd eleni.
Diwrnod Plant Mewn Angen
Gwisgodd pawb eu pyjamas ar gyfer diwrnod Pydsi. Casglwyd swm anrhydeddus o £398 tuag at yr elusen Plant Mewn Angen.
Apêl y Pabi Coch
Trefnodd y criw elusennau archebu pecyn o offer ysgrifennu y Pabi Coch a’u gwerthu o amgylch yr ysgol drwy’r wythnos. Casglwyd £234.79 tuag at yr achos.
Bocsys Nadolig T4U
Eleni eto, fe fuom wrthi’n brysur yn casglu cyfraniadau o focsys Nadolig ar gyfer elusen T4U. Roeddem yn falch o allu cefnogi plant sy’n llai ffodus na ni er mwyn iddynt gael dathlu’r Nadolig.
Diwrnod Trwynau Coch
Eleni trefnwyd gwerthu trwynau coch er mwyn casglu arian ar gyfer elusen ‘Comic Relief’. Yn ogystal, fe wnaethom drefnu gemau a giamocs ar yr iard ar gyfer yr achlysur.
© 2025 YSGOL BRO LLIFON | Gwefan gan Delwedd