Cysylltwch â ni
Ysgol Bro Llifon
Groeslon,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL54 7DT
Rhif Ffôn: 01286 831033
Ebost: Ysgol Bro Llifon


Ysgol Bro Llifon
Groeslon,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL54 7DT
Rhif Ffôn: 01286 831033
Ebost: Ysgol Bro Llifon
Mae Ysgol Bro Llifon yn rhan o gynllun Ysgolion Iach Gwynedd a Môn ac yn ystod y ddwy flynedd diwethaf 2018-2019 rydym wedi bod yn gweithio tuag at dderbyn gwobr Cam 5 Ysgolion Iach. Er mwyn derbyn y wobr roeddem yn gorfod gweithio ar ddwy agwedd sef Diogelwch a’r Amgylchedd.
Diogelwch - Trefnwyd nifer o weithgareddau e.e. cyflwyniadu gan Swyddogion Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd, hyfforddiant Kerbcraft (croesi’r ffordd yn ddiogel) i Flwyddyn 1, gwersi beicio diogel i Blwyddyn 6. Cafwyd cyflwyniadau gan swyddogion NSPCC, Peidiwch Cyffwrdd – Dweud, Dangos y cerdyn coch i hilliaeth, y Gwasanaethu Brys ac ymweliadau gan PC Owen i drafod agweddau fel cyffuriau, chwarae yn ddiogel a phobl sy’n ein helpu. Yn ogystal bu i ni wneud nifer o weithgareddau yn ymwneud â Diogelwch ar y wê a bwlio a chawsom ymarferion tân cyson.
Yr Amgylchedd – Bu i thema ‘All un person newid y byd’ drwy’r ysgol gyfan gyflwyno llawer o gyfleoedd i weithgareddau yn ymwneud â’r amgylchedd e.e. edrych ar ôl ein byd ac ailgylchu. Bu i rhai disgyblion fynd o amgylch pentref Y Groeslon yn casglu sbwriel, cafwyd ymweliad â Caergylchu, bu i lawer o ddisgyblion gymryd rhan yn wythnos cerdded i’r ysgol, adeiladwyd dau ‘Westy i’r Trychfilod’ yn ogysal a pawb yn gwneud eu gorau glas i ailgylchu a compostio.
Llwyddwyn i dderbyn gwobr Cam 5 diwedd Tymor yr Haf 2019 a nawr rydym yn cychwyn ar geisio gwobr Cam 6 sef y cam olaf. Er mwyn llwyddo a Cam 6 mae rhaid casglu tystiolaeth ar dair agwedd newydd sef Datblygu Personol a Chydberthynas, Defnyddio a Chamddefnyddio Sylweddu a Hylendid.
© 2025 YSGOL BRO LLIFON | Gwefan gan Delwedd