Cysylltwch â ni
Ysgol Bro Llifon
Groeslon,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL54 7DT
Rhif Ffôn: 01286 831033
Ebost: Ysgol Bro Llifon


Ysgol Bro Llifon
Groeslon,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL54 7DT
Rhif Ffôn: 01286 831033
Ebost: Ysgol Bro Llifon
CORFF LLYWODRAETHOL
Mae Ysgol Bro Llifon yn ffodus iawn i gael Corff Llywodraethol ymrwymedig a
gweithgar. Mae aelodau’r Corff Llywodraethol yn gyfrifol yn ôl y gyfraith, am
reolaeth gyffredinol yr ysgol. Diben y corff Llywodraethol yw cynghori, darparu
gwybodaeth a chefnogi’r Pennaeth a staff yr ysgol. Bydd y corff llawn yn cyfarfod o
leiaf unwaith y tymor a cheir cyfarfodydd rheolaidd o’r is-bwyllgorau i drafod
agweddau staffio, cyllid, addysg arbennig, cwricwlwm ac adeiladau.
Mae llywodraethwyr yn cael eu penodi i gynorthwyo i:-
1. benderfynu beth sydd yn cael ei ddysgu
2. safoni ymddygiad y plant
3. gyfweld a phenodi staff.
4. benderfynu sut mae gwario’r gyllideb.
Mae llywodraethwyr yn:-
1. rieni
2. athrawon
3. cynrychiolwyr cynghorau lleol
4. cynrychiolwyr y gymuned
Mae rhiant llywodraethwr:-
1. gyda phlentyn yn yr ysgol.
2. yn cael ei ethol/hethol gan rieni’r ysgol
3. yn gwasanaethu fel bob llywodraethwr arall am gyfnod o 4 blynedd.
Mae rhiant llywodraethwr yn allweddol ar gyfer dod â barn rhieni i’r corff cyfan, ond
gallant drafod fel unigolion. Mae ganddynt statws cyfartal a’r hawl i fwrw pleidlais.
Byddwch chi fel rhieni yn ethol 3 rhiant llywodraethwr am gyfnod o 4 mlynedd.
| Swyn Maelor Owen | Pennaeth |
| Aled Einion Evans | Athro |
| Ann Jones | Staff Ategol |
| Sara Edwards | Rhieni (Cadeirydd) |
| Delyth Jennings | Rhieni |
| Swyn Angharad | Rhieni |
| Cynghorydd Arwyn Herald Roberts | Awdurdod Lleol |
| Cynghorydd Llio Elenid Owen | Awdurdod Lleol |
| Robat Jones | Cymunedol |
| Claire Burgess | Cymunedol |
Os ydych angen trafod unrhyw fater gyda’r Corff Llywodraethol, yna cysylltwch â’r Cadeirydd neu’r Clerc.
Cadeirydd: Mrs Sara Edwards
Ebost: kaspereksara@yahoo.co.uk
Clerc: eleriannjones@hotmail.co.uk
© 2025 YSGOL BRO LLIFON | Gwefan gan Delwedd