Cysylltwch â ni
Ysgol Bro Llifon
Groeslon,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL54 7DT
Rhif Ffôn: 01286 831033
Ebost: Ysgol Bro Llifon


Ysgol Bro Llifon
Groeslon,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL54 7DT
Rhif Ffôn: 01286 831033
Ebost: Ysgol Bro Llifon

Amcanion Cyffredinol
Prif amcanion gweithgareddau'r Cyfnod Sylfaen fydd rhoi sylfaen gadarn Gymraeg
i bob plentyn. Gan mai yn y cyfnod cynnar hwn y mae plentyn mwyaf parod i
amsugno iaith, y mae'n bwysig creu amrywiaeth o brofiadau symbylus iddynt.
Ym mlwyddyn 1 a 2 adeiladir ar y sylfeini a osodwyd i'r Gymraeg, er mwyn
galluogi'r plentyn i gyrraedd y nod o ddwyieithrwydd llawn maes o law;
cadarnhau a datblygu mamiaith y plentyn o ddysgwr Cymraeg ac ymestyn gafael y
plant o gartref Cymraeg ar y Saesneg.
Yng Nghyfnod Allweddol 2 bydd cadarnhâd a datblygiad pellach o Gymraeg a
Saesneg pob plentyn, er mwyn sicrhau ei fod yn gallu siarad, darllen ac
ysgrifennu'n rhwydd a hyderus yn y ddwy iaith pan fydd yn trosglwyddo i'r ysgol
Uwchradd.
Trefnir i hwyrddyfodiaid fynychu'r Ganolfan Iaith yn Ysgol Maesincla ble mae
cyfleusterau ar gyfer cyflwyno cyrsiau dwys arbenigol i ddysgwyr. Bydd y dysgwyr
yn trosglwyddo yn ôl i'r ysgol gynradd ymhen tymor.
Fel ysgol rydym yn dilyn canllawiau 'Siarter Iaith Gymraeg Ysgolion Cynradd
Gwynedd' ac yn dilyn rhaglen weithredu'r cynllun sydd yn arwain at wobrau
efydd, arian ac aur o ganlyniad disgwylir mai'r Gymraeg a ddefnyddir i sgwrsio'n
anffurfiol yn y dosbarth ac ar y buarth, Gellir gweld copi o'r Polisïau Iaith drwy
gysylltu gyda'r Pennaeth.
© 2025 YSGOL BRO LLIFON | Gwefan gan Delwedd