Cysylltwch â ni
Ysgol Bro Llifon
Groeslon,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL54 7DT
Rhif Ffôn: 01286 831033
Ebost: Ysgol Bro Llifon


Ysgol Bro Llifon
Groeslon,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL54 7DT
Rhif Ffôn: 01286 831033
Ebost: Ysgol Bro Llifon
17.09.20 Symptomau COVID 19
|
|
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Cyfeiriadur Cefnogaeth ac Adrodd |
24.06.20 Cynllun Ail Agor 29 Mehefin 2020
21.05.20 Coronafeirws a Fi: Holiadur Cenedlaethol i Blant a Phobl ifanc yng Nghymru |
Yn dilyn lledaeniad y Coronafirws yn y DU, rydym i gyd wedi wynebu llawer o newidiadau arwyddocaol yn ei bywydau dyddiol sydd yn peri heriau anodd. Yn benodol, mae’r penderfyniad i gau’r ysgolion yng Nghymru a gweddill y DU ar gyfer plant rhieni sydd ddim yn cael eu ystyried yn weithwyr allweddol wedi gorfodi rhieni a phlant i addasu i hunan-ynysu adref. O ganlyniad i hyn, mae disgwyl i straen a phryder mewn rhieni a plant gynyddu fel rydym i gyd yn trio gwneud y gorau o’r sefyllfa bresennol. Tra nad oes gennym y pŵer i newid y sefyllfa na pha mor hir y bydd yn parhau, mae gennym y pŵer i reoli sut rydym yn ymateb iddo. Nod y ddogfen arweiniol yma gan eich gwasanaeth seicoleg addysgol lleol yw i helpu rhieni a gofalwyr i ennyn profiadau cadarnhaol tra’n hunan-ynysu gyda eu plant. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Cystadleuaeth Ffitrwydd Cynradd |
Mae Tim Chwaraeon am Oes yn cyflwyno cystadleuaeth wythnosol newydd i blant oedran cynradd sy’n dechrau Dydd Llun, 11fed o Fai. Pob wythnos byddwn yn gosod sialens newydd a gofynnwn am fideos byr o’r plant/plentyn yn cwblhau’r sialens honno. Byddwn yna’n gwobrwyo’r enillydd ac yn dangos eu fideo’n gyhoeddus ar ein cyfryngau cymdeithasol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Cystadleuaeth Ffitrwydd Cynradd |
29.04.20 - I sylw rhieni!
Ydych chi’n mynd yn brin o ddeunyddiau darllen ar gyfer y plant? Cofiwch fod modd cael mynediad at e-lyfrau, e-lyfrau llafar ac e-gylchgronau AM DDIM drwy fod yn aelod o Lyfrgell Gwynedd.
Gellir lawrlwytho yr ap @BorrowBox i gael mynediad AM DDIM i e-lyfrau ac e-lyfraullafar.
Gellir lawrlwytho yr ap @RBdigitalUK er mwyn cael mynediad AM DDIM i gylchgronau a chomics.
Gellir creu cyfrif arwahan i blant ar eu dyfeisiadau personol drwy ddewis 'Wales Children's Library'
Yr unig beth fyddwch angen yw eich rhif aelodaeth. Os nad ydych yn aelod mae ymaelodi yn syml: Dilynwch y linc a chliciwch ar ymuno â'r Llyfrgell
Mae mwy o wybodaeth a links ar ein tudalen Facebook a Twitter Llyfrgelloedd Gwynedd Libraries. Os oes gennych unrhyw ymholiadau croeso i chi anfon neges at - Llyfrgell@gwynedd.llyw.cymru
24.04.20 - Mae trefn nôl pecyn bwyd o’r ysgol wedi dod i ben
Mae trefn nôl pecyn bwyd o’r ysgol wedi dod i ben. Bydd angen i rieni/warcheidwaid wneud cais am daliad uniongyrchol i’w banc drwy ddilyn y linc canlynol:
Ffurflen Hawlio Taliad Cinio Ysgol
09.04.2020 - TRAIS YN ERBYN MERCHED,TRAIS DOMESTIG, A THRAIS RHYWIOL. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn awyddus i ni rannu gwybodaeth am fudiadau Cymorth Trais Domestig yng Ngwynedd. GORWEL Gwynedd 03001112121 Llinell Cymorth Byw Heb Ofn (Live Fear Free Helpline) 08088010800 |
Rhieni/gwarcheidwaid disgyblion sydd yn gymwys i ginio am ddim
Mae’r Cyngor yn bwriadu symud i drefn o daliadau uniongyrchol i gyfrifon banc rhieni/gwarcheidwaid disgyblion sydd yn gymwys i ginio am ddim ar ôl gwyliau’r Pasg. Cyfanswm y taliad fydd £19.50 fesul plentyn, fesul wythnos. Rhagwelir y bydd y taliad cyntaf yn cael ei wneud ar 20 Ebrill, ac yna’n wythnosol. Cewch e-bost o gyfeiriad taluysgol@gwynedd.llyw.cymru neu lythyr wythnos nesaf i ofyn i chi ddarparu gwybodaeth ynghyd â’u manylion banc ar wefan y Cyngor.
Y nôl i dudalen Archif Newyddion
© 2025 YSGOL BRO LLIFON | Gwefan gan Delwedd